Ffermwr Ifanc Iawn o Aberdar
November 4th, 2008
Plentyn tair blwydd oed ar ei dractor goch yn yr ardd cefn ym 1974…

Ffermwr ifanc iawn yn synfyfyrio a chynllunio beth sydd i’w wneud.
Rwy wedi bwydo’r hwyad a’r ieir….
Dewch ‘mlaen, tynnwch y llun, mae yna waith fferm i’w orffen
Trwy gydol fy mhlentyndod, cadwyd ieir, hwyad, a chwningod yn yr ardd heb son am y gath a’r cwn yn y ty. Yn y misoedd cyn y nadolig fe cadwyd twrcod hefyd.
Mwd, pethau yn tyfu, anifeiliaid i fwydo…. Byw ar fferm oeddwn i yn fy nychymyg a ffermwr ifanc iawn oeddwn i gyda chyfrifoldebau ar fy ysgwyddau.
Categories: Clywch | Tags: 1974, animals, childhood, dreams, farming, garden, tractor | No Comments




